Ysgol Sul
Home ] Lleoliad ] Y Gweinidog ] Gwasanaethau ] Y Blaenoriaid ] Cyfarfodydd ] Yr Adeilad ] Ffurfio'r Eglwys ] Y Cwlwm ] [ Ysgol Sul ] Cysylltu â ni ] Lluniau ]

 

Watato

Gweithgareddau'r ysgol

Ceir gwybodaeth am weithgareddau'r Ysgol Sul ym mhob rhifyn o'r Cwlwm.

 

Cyn diwedd tymor yr Haf bu’r plant ac athrawon yr Ysgol Sul yn brysur yn paratoi ar gyfer Cymanfa’r plant. Roedd hyn yn cynnwys dysgu emynau ar gyfer cystadlaethau George Edwards, dysgu’r tonnau newydd o’r Detholiad a gwneud modelau, collages a lluniau i’r adran gwaith llaw. Roedd yn gyfle da i groesawu plant o Ysgolion Sul yr ardal atom, a’u gwahodd am ddiod a bisgedi ar ddiwedd yr oedfa er mwyn cael cymdeithasu â hwy.

I gloi’r tymor cawsom fore o hwyl yn y festri, a bu llawer o weiddi a chwerthin wrth chwarae’r gemau !  Ar ôl yr holl firi, aethom yn ein blaenau i  Gelli Gyffwrdd – 40 ohonom i gyd. Cawsom dywydd braf ac ‘roedd hi’n fendigedig gweld y teuluoedd yn ymuno yn y sbort. Roedd yn gyfle gwych i bawb ddod i adnabod y rhieni a’r plant yn well, ac yn gwneud i ni sylweddoli’r pwysigrwydd o ddod at ein gilydd fel un teulu mawr.

Rydym yn ddiolchgar am  y gefnogaeth a gawsom i’n pnawn “ Te ac Adloniant” a gynhaliwyd yr wythnos olaf o’r tymor. Gwnaed elw o £158.45 a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am adnoddau ac offerynnau bach taro i’r dosbarth Meithrin a Derbyn.                                             

Wrth edrych ‘nol ar y flwyddyn a fu, mae’n galonogol gweld nifer y plant wedi cynnyddu i 22, a bod y mamau’n dod ac yn aros gyda’r plant lleiaf. Rydym yn ymfalchio fod un o’r  mamau am ymuno â thîm o athrawesau y dosbarth Meithrin a Derbyn. Os gwyddoch am blant eraill a hoffai ymuno â ni ar fore Sul, bydd croeso cynnes iawn iddynt.

Mae gennym gynlluniau’n barod ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf. Edrychwn ymlaen i agor y tymor ar y 5ed o Fedi yng nghwmni Nia o Bwllheli. Byddwn yn gwneud taith gerdded y Sul canlynnol ar hyd y Prom i Graig-y-Don ac yn ôl, i helpu bachgen bach o’r Cyffordd sydd yn dioddef o Leukemia. Byddwn yn falch o unrhyw gyfraniad at yr achos teilwng hwn. Cynhelir cyfarfod  Nos Fawrth, Medi’r 7fed. am 7.45pm. i’r swyddogion, athrawon a rhieni, er mwyn trafod sut i ddatblygu ein anghenion ymhellach.

Cyn cloi, hoffem, fel tîm o athrawon a helpwyr yr Ysgol Sul, ddiolch yn ddiffuant iawn i’r plant am eu ffyddlondeb a’u parodrwydd i wneud eu rhan bob amser. Mae ein dyled i’w rhieni am eu cefnogaeth barod bob amser ac i aelodau’r Eglwys am eu diddordeb yn y plant ac am fod mor gefnogol i bob gweithgaredd a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn.

 

Boed i waith dy Ysbryd Sanctaidd 

Lwyddo fwyfwy ynom ni.

 

 

Ceir gwybodaeth am weithgareddau'r Ysgol Sul ym mhob rhifyn o'r Cwlwm.