Y Gweinidog
Home ] Lleoliad ] [ Y Gweinidog ] Gwasanaethau ] Y Blaenoriaid ] Cyfarfodydd ] Yr Adeilad ] Ffurfio'r Eglwys ] Y Cwlwm ] Ysgol Sul ] Cysylltu â ni ] Lluniau ]

 

Y Cyfarfod Sefydlu

Y Parchedig Dafydd Rees Roberts, B.Sc., B.D.

 

Magwyd y Parchedig Dafydd Rees Roberts ar Fferm Derwgoed rhwng Llandderfel a Chefnddwysarn.  Fe’i addysgwyd yn Ysgol Gynradd Llandderfel, Ysgol Ramadeg y Bechgyn ac Ysgol y Berwyn, Y Bala.

Ym 1972 enillodd radd B.Sc. mewn Amaethyddiaeth gydag Economeg Amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor.

Rhwng 1972 a 1973 bu’n Rheolwr Fferm gyda’r V.S.O. yn Zambia.

Derbyniodd radd B.D. ym Mhrifysgol Bangor ym 1976.  

Yna, aeth ymlaen i Aberystwyth i astudio Cwrs Bugeiliol am flwyddyn.

Ym 1977, symudodd i Ynys Môn a chael ei ordeinio a’i sefydlu’n Fugail Gofalaeth Carreglefn, Rhosbeirio, Llanfechell, Mynydd Mechell, Rhosgoch a Rhosybol.

Rhwng 1986 a 1998 bu’n gofalu am Ofalaeth Clwyd Street a Vale Road, Rhyl, Tywyn a Dyserth.

O 1998 hyd ddiwedd Mawrth 2008 bu’n gyfrifol am Ofalaeth Bro Llanuwchllyn a’r Cylch (Presbyteriaid, Annibynwyr a Bedyddwyr).

 

Y rhai fu'n cymryd rhan yn y cyfarfod i Sefydlu'r Gweinidog ar 26 Ebrill, 2008