Lluniau
Home ] Lleoliad ] Y Gweinidog ] Gwasanaethau ] Y Blaenoriaid ] Cyfarfodydd ] Yr Adeilad ] Ffurfio'r Eglwys ] Y Cwlwm ] Ysgol Sul ] Cysylltu â ni ] [ Lluniau ]

 

Oriel luniau

Dyma gasgliad o luniau gwahanol weithgareddau sydd wedi digwydd.

 
     

 

 

GWASANAETH NADOLIG  
Y rhai fu'n cymryd rhan yn y Gwasanaeth Nadolig Dyma'r criw fu'n canu carolau ar derfyn y gwasanaeth
     

Sion Corn ar ei ffordd i'r ysgoldy. Delyth Roberts yn brysur gyda'i thebot. Ai Mathew wrth y dollfa sydd yma? Nage, John Arfon yn cyfri'r casgliad!
     

Y plant lleiaf yn mwynhau eu parti. Meinir Morgan yn ymddangos fel ei bod am weddio! Y criw coch yn rhoi'r byd yn ei le hefo Hazel Elias!
     

Dyma i chwi bedwar newydd fwynhau rhyw joc! Ivy, Glenys, Olga ac Olva yn mwynhau paned a sgwrs. Yr ysgoldy'n orlawn o bobl a phlant yn mwynhau paned, mins pei a sgwrs.
     
 
Mrs Beti Thomas, Medwen Davies a Dr Garth Higginbotham yn mwynhau paned. Beryl Lewis Jones a Nia Higginbotham mewn dwys fyfyrdod.  
     
     

 

CYFARFOD FFARWELIO GYDA'R GWEINIDOG
Beryl Lewis Jones yn cyflwyno basged o flodau i Carys Roberts Disgyblion yr Ysgol Sul fu'n cymryd rhan yn y gwasanaeth Y Parch John Lewis Jones, Llywydd y cyfarfod gyda'r Parch Dafydd Rees Roberts
     
 
Teulu a gwahoddedigion yn mwynhau paned wedi'r cyfarfod Rhai fu'n cymryd rhan yn y cyfarfod - John Lewis Jones, Gwilym Charles Williams, Menna Green, Robert Owen Griffiths a Dafydd Rees Roberts  

 

YMGYRCH PLENTYN Y NADOLIG

Bu aelodau'r Ysgol Sul yn brysur dros benwythnos 12fed a'r 13eg o Dachwedd yn llenwi bocsus esgidiau ar gyfer ymgyrch 'Plentyn y Nadolig'

Criw Sadwrn- bu'r rhain ymysg y criw fu'n brysur ar y bore Sadwrn. Gymrwch chi baned? Mwynhawyd paned a bisgedi tra'n cael hoe o'r gwaith. Plant yr Ysgol Sul wedi ymgasglu o gwmpas dros gant o focsus esgidiau sy'n barod i'w hanfon dros y môr

 

TAITH GERDDED

Ar y 18fed o Fedi bu nifer o blant yr Ysgol Sul, eu rhieni a ffrindiau, ar daith gerdded i godi arian i helpu i dalu am addysg Julius.

Mamau yn cerdded 4 yn cerdded

criw cerdded

 

SUL Y MAMAU

Dathlwyd Sul y Mamau gyda gwasanaeth hyfryd yn Eglwys Unedig Gymraeg Llandudno dan arweiniad Mr Gwilym Charles Williams. ‘R oedd y plant, eu rhieni ac athrawon yr Ysgol Sul wedi bob yn brysur yn paratoi blodau i’w rhannu i’r aelodau. Y cyflwynwyr yn y gwasanaeth oedd Siriol, Catrin ac Ilid.

   
Yn y llun uchod fe welwch y plant ieuengaf gyda’u basgedi. Dyma aelodau hŷn o’r Ysgol Sul
   
Bu'r Mamau, yr athrawon Ysgol Sul a rhai o'r plant yn brysur yn paratoi'r blodau y diwrnod cynt Catrin, Siriol ac Ilid yn cymryd rhan yn y gwasanaeth
   
Rhai o'r plant gyda'u teuluoedd  
   
   
  Mrs Eirlys Cobley, yn 92 oed, oedd y fam hynaf yn y gwasanaeth

 

 

CYMDEITHAS Y CYMRODORION A CHYMDEITHAS PAWB YN DATHLU GWYL DDEWI
Bu Cymdeithas y Cymrodorion a Chymdeithas PAWB yn dathlu Gwyl Ddewi ar y cyd yn Ysgoldy'r Eglwys Unedig ar y 4ydd o Fawrth gyda Dafydd Iwan yn wr gwadd. John Lewis Jones oedd llywydd y noson ac ef a gyflwynodd Dafydd Iwan. Mwynhawyd dwy wledd ar y noson - swper blasus a chyfraniad Dafydd Iwan gyda'i sgwrs fyrlymus a'i ganeuon, gan orffen gyda'r ffefryn 'Yma o Hyd'. Hywel Williams, llywydd Cymdeithas PAWB ddiolchodd am noson gofiadwy.

Llywyddion gyda Dafydd Iwan sef: Hywel Williams, Llywydd Cymdeithas PAWB, Dafydd Iwan, John Lewis Jones, Llywydd y Cymrodorion.
   

 

 

 

 

Lansio Llyfr John Lewis Jones 

‘Coronwch Ef Yn Ben’

 Llyfr fydd o gymorth i Eglwysi Cymraeg.

Yn Siop Lyfrau Lewis, Llandudno, ddydd Llun, Ebrill 20fed, daeth nifer dda o gyfeillion i lansio llyfr newydd y Parchedig John Lewis Jones, cyn-weinidog yr Eglwys Unedig ac erbyn hyn yn un o'r diaconiaid. Teitl y llyfr yw ‘Coronwch Ef Yn Ben’,  ac yn y rhagair, fe ddywed yr awdur:

“Yn wyneb prinder gweinidogion a phregethwyr cynorthwyol, dibynna llawer o’n heglwysi bellach ar yr aelodau eu hunain i gynnal gwasanaethau. Gall hyn fod yn fendithiol i lawer, a pheri inni sylweddoli y gall cynulleidfa addoli Duw pan na fydd pregethwr yn bresennol. Yr angenrheidiau hanfodol mewn oedfa yw Beibl agored, presenoldeb yr Ysbryd Glân, a pharodrwydd cynulleidfa o gredinwyr i ymateb i wahoddiad grasol cariad Duw yn Iesu Grist.

Wrth baratoi’r llyfr hwn, cofiais gymaint fu dylanwad da fy nheulu a chyfeillion arnaf. Dechreuais fy mhererindod ysbrydol ar aelwyd Gristnogol mewn fferm yng nghefn gwlad Meirionnydd, a diolchaf i Dduw am ofal cariadus fy rhieni a’m chwiorydd ohonof. Cefais bob gofal yn Eglwys fy mebyd, a chofiaf y gymdeithas glos a gwerinol yng nghapel Tre’r Ddôl tra byddaf fyw. Y mae cannoedd o eglwysi tebyg ledled Cymru, a chyflwynaf y llyfr gwasanaeth hwn iddynt i’w cynorthwyo ar y Sul.”

Cynhwysa’r llyfr 69 o wasanaethau cyflawn ar gyfer cynnal oedfaon Cristnogol. Ei bris yw £13.99, a gellir ei brynu yn Siop Trystan a Llinos neu yn unrhyw siop lyfrau Cymraeg.

 

 

 

 

Y gwasanaeth olaf

Roedd yna awyrgylch emosiynol yn Eglwys Bethania, Craig-y-don, pan gynhaliwyd y gwasanaeth olaf ar y 27ain. o Ragfyr, ar ôl 123 o flynyddoedd. Ym Mhant y Wennol, oddi ar Ffordd Bodafon, y dechreuodd yr achos.

 

 

Yn y llun gwelir Miss Laura Jane Roberts, Llywydd yr Henaduriaeth, oedd newydd gario’r Beibl allan o’r capel, yng nghwmni’r gweinidog presennol, Y Parchedig Dafydd Rees Roberts. Er y tristwch, edrychir ymlaen at bennod newydd, gyda’r aelodau yn ymuno ag Eglwys Unedig Gymraeg Llandudno  o ddechrau Ionawr 2010   John Evans, un o flaenoriaid Bethania, gafodd y gwaith o rannu’i atgofion yn ystod y gwasanaeth. Wedyn, dros baned, fe’i gwelir yn sgwrsio â’r Parch Eifion Jones, un a fagwyd yng Nghonwy, ac a bregethodd droeon ym Methania.
     

 

 

 

Mwynhawyd paned yn yr Ysgoldy ar derfyn y gwasanaeth gyda phobl o bell ac agos gan gynnwys Evan a Helen o Sbaen!   Y pedwar blaenor ym Methania oedd William Emrys Jones, Ifan Glyn Jones, John Evans a Dewi Parry Jones. Fe'u gwelir gyda Miss laura Jane Roberts, Llywydd yr Henaduriaeth a'r Parchedig Dafydd Rees Roberts, y Gweinidog
     

 

Un a deithiodd o Gaerdydd oedd Alun Michael, cyn Brif Weinidog Cymru. Bu ei dad, Leslie, yn flaenor ym Methania, ac yn weithgar yn yr eglwys a’r gymuned am flynyddoedd lawer. fe'i gwelir yn sgwrsio gyda Gwyneth Jones o Eglwys Peniel   'Roedd rhai yn rhy brysur yn sgwrsio i edrych ar y camera!
     

 

 

 

'Roedd y criw yma i gyd yn rhy brysur yn sgwrsio i feddwl edrych ar y camera!   Dyma i chwi dri oedd yn amlwg yn mwynhau eu paned!

 

Gwasanaeth Diolchgarwch

y plant fu'n cymryd rhan yn y Gwasanaeth Diolchgarwch gyda Iorwerth Roberts o Norwy fu'n sgwrsio am ei gysylltiad â Julius, o Kampala, Uganda, sy'n cael ei noddi gan yr Eglwys Unedig y merched fu'n cymryd rhan (yn canu) yn y gwasanaeth
Llun o rai o'r plant fu'n cymryd rhan gyda'r gweinidog, Y Parch Dafydd Rees Roberts - a'r Arth Paddington. Defnyddiwyd yr arth gan y Gweinidog yn ei sgwrs gyda'r plant
 

 

 

Y Cyfarfod

Y cyfarfod i Sefydlu'r Gweinidog ar 26 Ebrill, 2008

 

Aled Morgan a Gwilym Charles Williams, dau fu'n brysur ynglyn â'r trefniadau. Rhai o'r merched fu'n paratoi'r te. Hywel Williams yn mynd i hwyl wrth dacluso'r ardd cyn y gwasanaeth!

 

 

Y Parch John Lewis Jones, Llywydd y cyfarfod, gyda'r Gweinidog. Y Gweinidog gyda'i deulu.
 

 

Gwahoddedigion yn mwynhau paned ar ôl y gwasanaeth gan gynnwys rhai o gyn eglwysi Y Parch. Dafydd Rees Roberts ym Môn, Y Rhyl a Llanuwchllyn.