Lansio llyfr
Home ] Lleoliad ] Y Gweinidog ] Gwasanaethau ] Y Blaenoriaid ] Cyfarfodydd ] Yr Adeilad ] Gwasanaeth olaf Bethania ] Ffurfio'r Eglwys ] Y Cwlwm ] Ysgol Sul ] Gweithgareddau ] [ Lansio llyfr ] Cysylltu â ni ] Lluniau ]

 

Lansio Llyfr John Lewis Jones 

‘Coronwch Ef Yn Ben’

 Llyfr fydd o gymorth i Eglwysi Cymraeg.

Yn Siop Lyfrau Lewis, Llandudno, ddydd Llun, Ebrill 20fed, daeth nifer dda o gyfeillion i lansio llyfr newydd y Parchedig John Lewis Jones, cyn-weinidog yr Eglwys Unedig ac erbyn hyn yn un o'r diaconiaid. Teitl y llyfr yw ‘Coronwch Ef Yn Ben’,  ac yn y rhagair, fe ddywed yr awdur:

“Yn wyneb prinder gweinidogion a phregethwyr cynorthwyol, dibynna llawer o’n heglwysi bellach ar yr aelodau eu hunain i gynnal gwasanaethau. Gall hyn fod yn fendithiol i lawer, a pheri inni sylweddoli y gall cynulleidfa addoli Duw pan na fydd pregethwr yn bresennol. Yr angenrheidiau hanfodol mewn oedfa yw Beibl agored, presenoldeb yr Ysbryd Glân, a pharodrwydd cynulleidfa o gredinwyr i ymateb i wahoddiad grasol cariad Duw yn Iesu Grist.

Wrth baratoi’r llyfr hwn, cofiais gymaint fu dylanwad da fy nheulu a chyfeillion arnaf. Dechreuais fy mhererindod ysbrydol ar aelwyd Gristnogol mewn fferm yng nghefn gwlad Meirionnydd, a diolchaf i Dduw am ofal cariadus fy rhieni a’m chwiorydd ohonof. Cefais bob gofal yn Eglwys fy mebyd, a chofiaf y gymdeithas glos a gwerinol yng nghapel Tre’r Ddôl tra byddaf fyw. Y mae cannoedd o eglwysi tebyg ledled Cymru, a chyflwynaf y llyfr gwasanaeth hwn iddynt i’w cynorthwyo ar y Sul.”

Cynhwysa’r llyfr 69 o wasanaethau cyflawn ar gyfer cynnal oedfaon Cristnogol. Ei bris yw £13.99, a gellir ei brynu yn Siop Trystan a Llinos neu yn unrhyw siop lyfrau Cymraeg.