Gwasanaeth olaf Bethania
Home ] Lleoliad ] Y Gweinidog ] Gwasanaethau ] Y Blaenoriaid ] Cyfarfodydd ] Yr Adeilad ] [ Gwasanaeth olaf Bethania ] Ffurfio'r Eglwys ] Y Cwlwm ] Ysgol Sul ] Gweithgareddau ] Lansio llyfr ] Cysylltu â ni ] Lluniau ]

 

Y gwasanaeth olaf

Roedd yna awyrgylch emosiynol yn Eglwys Bethania, Craig-y-don, pan gynhaliwyd y gwasanaeth olaf ar y 27ain. o Ragfyr, ar ôl 123 o flynyddoedd. Ym Mhant y Wennol, oddi ar Ffordd Bodafon, y dechreuodd yr achos.

 

 

Yn y llun gwelir Miss Laura Jane Roberts, Llywydd yr Henaduriaeth, oedd newydd gario’r Beibl allan o’r capel, yng nghwmni’r gweinidog presennol, Y Parchedig Dafydd Rees Roberts. Er y tristwch, edrychir ymlaen at bennod newydd, gyda’r aelodau yn ymuno ag Eglwys Unedig Gymraeg Llandudno  o ddechrau Ionawr 2010   John Evans, un o flaenoriaid Bethania, gafodd y gwaith o rannu’i atgofion yn ystod y gwasanaeth. Wedyn, dros baned, fe’i gwelir yn sgwrsio â’r Parch Eifion Jones, un a fagwyd yng Nghonwy, ac a bregethodd droeon ym Methania.
     

 

 

 

Mwynhawyd paned yn yr Ysgoldy ar derfyn y gwasanaeth gyda phobl o bell ac agos gan gynnwys Evan a Helen o Sbaen!   Y pedwar blaenor ym Methania oedd William Emrys Jones, Ifan Glyn Jones, John Evans a Dewi Parry Jones. Fe'u gwelir gyda Miss laura Jane Roberts, Llywydd yr Henaduriaeth a'r Parchedig Dafydd Rees Roberts, y Gweinidog
     

 

Un a deithiodd o Gaerdydd oedd Alun Michael, cyn Brif Weinidog Cymru. Bu ei dad, Leslie, yn flaenor ym Methania, ac yn weithgar yn yr eglwys a’r gymuned am flynyddoedd lawer. fe'i gwelir yn sgwrsio gyda Gwyneth Jones o Eglwys Peniel   'Roedd rhai yn rhy brysur yn sgwrsio i edrych ar y camera!
     

 

 

 

'Roedd y criw yma i gyd yn rhy brysur yn sgwrsio i feddwl edrych ar y camera!   Dyma i chwi dri oedd yn amlwg yn mwynhau eu paned!