Ffurfio'r Eglwys
Home ] Lleoliad ] Y Gweinidog ] Gwasanaethau ] Y Blaenoriaid ] Cyfarfodydd ] Yr Adeilad ] [ Ffurfio'r Eglwys ] Y Cwlwm ] Ysgol Sul ] Cysylltu â ni ] Lluniau ]

 

Cofnodion

Uno'r bedair Eglwys

Trafodwyd y syniad o ffurfio Eglwys Unedig mewn cyfarfod o Gyngor Eglwysi Rhyddion Llandudno yn 1997 a chytunwyd ar y camau cyntaf:

a)  Cynnal Cyfarfodydd Defosiynol unwaith y mis i weddïo am arweiniad ac i’r aeloadau ddod i adnabod ei gilydd;

b)  Y Gweinidogion i newid pulpudau yn rheolaidd ac i fynd â‘u cynulleidfa gyda hwy:

c)  Ffurfio pwyllgor uno yn cynnwys y gweinidogion a’r blaenoriaid/diaconiaid.

Cyfarfu y Pwyllgor uno yn rheolaidd o Ebrill 1998 ymlaen. Cafwyd adroddiadau pensaer ar yr adeiladau; cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr yr enwadau, a gyda phensaer CADW. O Fawrth, 1999 ymlaen cynhaliwyd gwasanaethau unedig gan ddefnyddio’r capeli am fis ar y tro. Cynhaliwyd Gwasanaeth Sefydlu yr Eglwys Unedig ar yr 2 Ionawr, 2000.

Yr oedd dwy broblem fawr yn wynebu’r Pwyllgor Uno:

a) y ffaith fod pedwar o weinidogion;
b) yr adeiladau.

 

Bu i a) ddatrys ei hun gan i’r Parch. E.R.Lloyd Jones (Presbyteriaid) ymddeol oherwydd cyflwr ei iechyd; ymddeolodd y Parch. Roger Roberts (Wesleaid) hefyd, ac yn fuan fe’i dyrchafwyd i Dŷ’r Arglwyddi; ac yna fe symudodd y Parch. Idwal Jones (Bedyddwyr) fel Gweinidog i Gaergybi. Roedd y pedwar enwad yn falch fod y Parch. John Lewis Jones (Annibynwyr) yn fodlon bod yn Weinidog ar yr Eglwys Unedig a chynhaliwyd y Cyfarfod Sefydlu ar y 23ain Ionawr,2003.

 

Presbyteriaid

Seilo

Annibynwyr

Deganwy Avenue

Wesleaid

Ebeneser

Bedyddwyr

Y Tabernacl

 

Ar ôl cryn drafod yn y Pwyllgor Uno cytunwyd i gynnal dwy bleidlais i ddewis adeilad. Bwriad y bleidlais gyntaf oedd dewis dau adeilad ac yna pleidlais bellach i ddewis yr adeilad terfynol ar gyfer yr Eglwys Unedig. Erbyn hyn mae bawb i’w gweld yn hapus iawn yn adeilad Seilo ac mae cryn waith wedi’i wneud i addasu’r adeilad i gyfateb â’r safonau a ddisgwylir heddiw.