|
Cyfarfodydd canol wythnos (Gweler "Y
Cwlwm" am fwy o wybodaeth neu cliciwch ar un o'r cysylltiadau ar y
chwith)
Mae
cyfarfodydd eglwysig pob nos Lun trwy dymor y gaeaf; cyfarfod defosiynol
a chyfarfod diwylliannol pob yn ail. Mae enw gwreiddiol iawn ar y
gymdeithas ddiwylliannol sef
Cymdeithas PAWB (Presbyteriaid,
Annibynwyr, Wesleaid a Bedyddwyr) ac yno cawn amrywiaeth o gyfarfodydd,
rhai gan aelodau o’r gymdeithas ac eraill gyda siaradwyr gwâdd.
Bydd y
cyfarfodydd defosiynol o dan arweiniad ein Gweinidog a byddwn yn dilyn
thema am y tymor. Ar fore Gwener am 9.30 ceir Cyfarfod Gweddi a phaned a
sgwrs i ddilyn. Mae’r orig yma yn profi’n boblogaidd a bendithiol iawn.
Bydd
Cyfarfod y Chwiorydd ar bnawn Iau unwaith y mis a byddant yn cynnal
Bore Coffi ar fore Iau cyntaf y mis.
Cynhelir
Clwb y Plant am 4.30 ar
nos Iau.
|